P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn Jones, ar ôl casglu 5,133 o lofnodion ar-lein a 661 ar bapur – cyfanswm o 5,794 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyfor Meirionnydd
· Canolbarth a Gorllewin Cymru